Comisiynydd yr Heddlu
Pwy yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent?
Jane Mudd
Bydd cyfnod Ms Mudd yn y swydd yn para pedair blynedd o 2024, ac mae’n gyfrifol am gynrychioli pobl Gwent a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu yn effeithlon ac yn effeithiol.
Gwneir hyn drwy:
- ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am y ffordd y caiff gwaith plismona lleol ei gyflawni;
- llunio cynllun yr heddlu a throseddu a’i ddiweddaru;
- gosod cyllideb a phraesept yr heddlu;
- ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau yn rheolaidd;
- penodi’r Prif Gwnstabl, a’i ddiswyddo lle y bo angen.
Mae Ms Mudd wedi nodi ei fod am fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu “gweladwy” a “chynhwysol” ac mae wedi addo y bydd yn sicrhau bod egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol a thegwch yn dod yn sail i arferion plismona yn y rhanbarth.
E-bost: Commissioner@gwent.police.uk
Ffôn: 01633 642200
Gwefan: www.gwent.pcc.police.uk
X (a elwid gynt yn Twitter): @gwentPCC
Beth yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?
Roedd cyflwyno Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn newid sylweddol i’r ffordd y caiff plismona ei lywodraethu, ac maent yn chwarae rôl bwysig a dylanwadol. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynrychioli’r cyhoedd yng Ngwent a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr Heddlu yn effeithiol, yn effeithlon ac o’r safon uchaf. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif.
Mae cyfrifoldebau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cynnwys gosod blaenoriaethau plismona lleol, rheoli cyllideb yr Heddlu, gosod elfen yr heddlu o’r dreth gyngor, ac mae’n gallu penodi a diswyddo’r Prif Gwnstabl. Mae ganddo gyfrifoldebau ehangach hefyd am gyflwyno diogelwch cymunedol a lleihau troseddau, sicrhau bod cytundebau cydweithio â Chyrff Plismona Lleol a heddluoedd eraill yn effeithiol, a gwella’r ffordd y caiff cyfiawnder troseddol ei gyflawni yn ei ardal.
Yn ogystal, mae’n sicrhau bod anghenion dioddefwyr troseddau wrth wraidd ei agenda. Ar gyfer y rôl hon, gall ennill cyflog o oddeutu £70,000 y flwyddyn a chael ei ddwyn i gyfrif am ei berfformiad mewn etholiad bob pedair blynedd.
Beth yw Panel yr Heddlu a Throseddu?
Bydd Panel yr Heddlu a Throseddu, sy’n cynnwys Cynghorwyr ac Aelodau Annibynnol, yn craffu ar berfformiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Lle y bo’n briodol, mae gan Baneli ddyletswydd i wneud sylwadau am y sawl a gaiff ei benodi’n Brif Gwnstabl gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, uwch-swyddogion eraill a benodir yn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac i wahardd lefel braesept heddlu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae’r Paneli’n canolbwyntio ar gamau gweithredu a phenderfyniadau strategol allweddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys a yw wedi cyflawni’r amcanion a nodwyd yng nghynllun yr heddlu a throseddu a’r adroddiad blynyddol, ystyried blaenoriaethau perthnasol partneriaid diogelwch cymunedol ac ymgynghori â’r cyhoedd yn briodol.
Mae’r sefyllfa yng Nghymru o ran y Paneli yn wahanol i’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr gan eu bod yn baneli annibynnol a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref.
Beth fydd cydberthynas Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu â’r Prif Gwnstabl?
Ni all Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu dresmasu ar annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl, h.y. cyfarwyddo ble dylid clustnodi adnoddau, megis swyddogion yr heddlu. Mae’r Prif Gwnstabl yn cadw cyfrifoldeb am blismona gweithredol.